Llanw 12
Dyddiadau Llanw 2012 yw 9-13 Ebrill a’r lleoliad unwaith eto yw Cei Newydd, Sir Aberteifi.
Lleoliad gwasanaethau, seminarau a gwaith plant: Neuadd Goffa Cei Newydd – SA45 9QQ
Gwaith Ieuenctid: Festri Capel Towyn, Cei Newydd
Llety: Gwersyll Quay West, Cei Newydd SA45 9SE
Gwasnaethau:
Oedfaon 10yb, 7yh
Bore Mawrth 10fed, Mercher 11eg, Iau 12fed Ebrill – Parch. Hywel Meredydd, Tearfund
Nos Lun Ebrill 9fed – Dathliad i’r teulu gyda Parch. Rhun Murphy, Wrecsam a Ponciau
Nos Fawrth Ebrill 10fed: Pryd o fwyd i bawb yn y Neuadd Goffa
Nos Fercher Ebrill 11eg – Dr Owain Roberts, Aberystwyth
Nos Iau Ebrill 12fed – Parch. Mike Adams, Llanelli?
Cyfarpar cyfieithu ar gael ar gyfer y prif oedfaon.
Prisiau
Prisiau Llanw carafanau hunan arlwyo: Talu erbyn Ionawr 26 2012
- Carafán Standard 2 ystafell (5 ar gael) £260
- Carafán Standard 3 ystafell (4 ar gael) £300
- Carafán Superior 2 ystafell (7 ar gael) £275
- Carafán Superior 3 ystafell (9 ar gael) £315
- Carafán Deluxe 2 ystafell (5 ar gael) £335
- Carafán Deluxe 3 ystafell (5 ar gael) £375
- Carafán Prestige 2 ystafell (2 ar gael) £370
- Carafán Prestige 3 ystafell (3 ar gael) £410
Mae’r carafanau 2 ystafell yn medru cysgu hyd at 6 o bobl mewn 1 stafell ddwbl, 1 stafell â 2 wely sengl a 2 sofa bed yn y lolfa.
Mae’r carafanau 3 ystafell yn medru cysgu hyd at 8 o bobl mewn 1 stafell ddwbl, 2 stafell 2 wely sengl a 2 sofa bed yn y lolfa.
Gofynnir i chi, lle bo modd, archebu carafan gyfan fel grŵp o ffrindiau neu deulu ond lle nad ydy hynny’n bosib croeso i unigolion gysylltu â ni i archebu lle am oddeutu £85 ac fe’ch rhennir i mewn i garafanau wrth gyrraedd.
Gwaith plant, ieuenctid, seminarau, gweithgareddau anffurfiol trwy’r wythnos a digonedd o gyfle i gymdeithasu dros baned neu bryd o fwyd! I’r rhai sy’n aros yn y gwersyll, gellir defnyddio’r cyfleusterau hamdden a’r pwll nofio yno hefyd.
Croeso i rai sydd ddim am aros yn Quay West ymuno â ni:
Prisiau Tocynnau diwrnod:
- Tocyn Teulu (2 oedolyn a 2 blentyn) £20
- Oedolion: £10
- Pensiynwyr a myfyrwyr: £5
- Plant: £3
Sieciau yn daladwy i ‘Llanw’ a’i gyrru i Caledfryn, 8 Gele Avenue, Abergele, Conwy, LL22 7BB. Am fwy o fanylion cysylltwch â Ben a Sioned Nuss: 01745833457



