Amdanom
Mae Llanw yn ŵyl Gristnogol i bob oed gafodd ei sefydlu yn 2008. Roedd oddeutu 60 o bobl yn yr ŵyl gyntaf ac mae wedi tyfu bellach i fod yn ŵyl mae oddeutu 300 yn ei fwynhau’n flynyddol. Mae’n ŵyl symudol ac wedi ei gynnal yn Llangrannog, Cei Newydd, Dinbych y Pysgod, Cricieth a Chydweli.
Ffocws yr ŵyl yw dathlu’r atgyfodiad wrth i Gristnogion ddod at ei gilydd i glywed pregethau, anerchiadau a seminarau Beiblaidd a mwynhau addoliad egnïol a chyfoes.
Mae darpariaeth lawn ar gyfer plant a phobl ifanc wedi bod yn rhan o’r ŵyl ers y dechrau. Mae hefyd yn ŵyl breswyl gyda’r cyfle i bawb archebu llety ar y cyd, er bod nifer hefyd yn trefnu llety eu hunain ac yn mynychu fel ymwelwyr dyddiol.
Cynhelir yr ŵyl yr wythnos yn dilyn Sul y Pasg bob blwyddyn.
Elusen fach annibynnol (Rhif Elusen: 1166349) sy’n trefnu’r ŵyl heb nawdd na chefnogaeth ffurfiol unrhyw fudiad neu enwad. Cadeirydd presennol yr ŵyl yw Meirion Morris a’r ysgrifennydd yw Heledd Iago. Mae gweddill y pwyllgor a’r gwirfoddolwyr yn dod o wahanol draddodiadau ac enwadau.
Cyfeiriad cofrestredig yr elusen:
LLECHRYD
SUNNY HILL
LLANDYSUL
CEREDIGION
SA44 4DT
ymholiadau@llanw.org
Cadeirydd yr ymddiriedolwyr: Meirion Morris
Dirprwy gadeirydd: Menna Machreth
Ysgrifennydd: Angharad Clwyd