Gweddi

Annwyl ffrindiau,

24 awr gweddi – Llanw mewn partneriaeth â Ffald y Brenin

Ni wedi’n cyffroi yn lân i allu rhannu gyda chi am y 24 awr o weddi yr ydym yn ei drefnu ar y cyd gyda chriw Ffald y Brenin. Mae’n argoeli i fod yn amser pwysig ac arbennig iawn a da ni methu aros i geisio Duw gyda chi, ein brodyr a’n chwiorydd o ar draws Cymru.

Gofynnwn i chi arwyddo fyny i awr o slot (neu fwy) yn ystod y cyfnod 8pm-8pm. Byddwn yn ymuno gyda’n gilydd dros zoom ac wrth arwyddo i fyny fe fyddwn yn ebostio côd y zoom i chi ag ychydig nodiadau a fydd yn eich helpu yn ystod eich cyfnod chi o weddi.

Gofynnwn i bawb sy’n gallu, i ymuno gyda ni yn ystod yr awr cyntaf 8pm-9pm 31/03 ond hefyd ilenwi’r ffurflen isod gan nodi pa slot o awr yr hoffech chi gymryd rhwng 9pm 31/03 a 7pm 01/04.

Bydd yr awr olaf 7pm-8pm 01/04 yn awr o fawl a gweddi i gwblhau ein hamser gyda’n gilydd a bydd croeso i bawb ymuno yn yr awr hynny hefyd.

Bydd yna hefyd 3 slot arbennig o fawl a defosiwn yn ystod ein 24 awr, rhwng 2-3am gyda Lowri Jones, rhwng 8-9am gyda Rhys Hughes a rhwng 1-2pm gyda Julie Edwards.

Felly a wnewch lenwi’r ffurflen isod mor fuan a phosibl i gadarnhau pa awr o slot yr hoffech chi arwyddo fyny i. Bydd y slotiau awr yn cael eu rhannu’n 3 i ni gael cyfle i weddio dros ein Cymunedau, dros Gymru a dros y Byd.

Dyn ni’n hynod o ddisgwylgar am y 24awr yma – y bydd Duw yn ein cryfhau, ein annog, ein herio ac yn rhoi gweledigaeth, ffydd a gobaith newydd i ni dros yr eglwys yng Nghymru.

Pob Bendith,

Angharad Clwyd
ar ran Ymddiriedolwyr Llanw