Llanw 21
Cynhelir Llanw 2021 fel gŵyl rithiol ar-lein.
Croeso cynnes i chi ymuno a ni yn yr hyn sydd wedi ei drefnu.

Ar Nos Lun y 5ed o Ebrill bydd dathliad byw yn cael ei ddarlledu o Gaernarfon i’r byd.
Bydd yr addoliad a’r band byw ar y noson yn cael ei arwain gan Cadi Gwyn a Meilyr Geraint.
Bydd anogaeth o’r Gair gan Nan Powell-Davies.
A hefyd bydd cyfraniadau a thystiolaethau o bob rhan o’r wlad.
Bydd y cyfan yn cael ei ddarlledu’n fyw ar sianel Facebook a YouTube Llanw a bydd sesiynau ‘ar ôl oriau’ Zoom yn dilyn.

Ar y 5ed o Ebrill bydd sesiynau ZOOM wedi eu trefnu i’r plant a’r ieuenctid.
Bore Llun – 5ed o Ebrill 10.30am
Cofrestrwch cyn y 30ain o Fawrth a bydd y plant yn derbyn pecyn hwyl yn y post i gydfynd gyda’r sesiwn.
Mae cofrestru ymlaen llaw yn angenrheidiol er mwyn cynorthwyo yr arweinwyr baratoi deunydd addas ac hefyd am resymau diogelwch.
Ffurflen Gofrestru Gwaith Plant Zoom Ieuenctid Llanw (bl 7-11)Nos Lun – 5ed o Ebrill
8.30pm (yn dilyn dathliad)
Mae cofrestru ymlaen llaw yn angenrheidiol er mwyn cynorthwyo yr arweinwyr baratoi deunydd addas ac hefyd am resymau diogelwch.
Ffurflen Gofrestru Gwaith Ieuenctid
Yna ar y tair noson ddilynol – 6ed, 7fed a’r 8ed o Ebrill – bydd yna Astudiaethau Beiblaidd ar Zoom, eto am 7.00yh yn cael eu harwain gan Gwilym Jeffs (Dathlu’r Atgyfodiad – o Farwolaeth i Fywyd), Alun Thomas (Dathlu’r Atgyfodiad – o Fywyd i Fywyd) a Gwilym Tudur (Dathlu’r Atgyfodiad – o Fywyd i Ogoniant).