Llanw 22

Beth sy’n digwydd yn Llanw?
Cynhelir oedfa nos Lun, bore Mawrth a nos Fawrth yng Nghanolfan Medrus, Aberystwyth. Bydd yna ddewis o ddarlith neu sgyrsiau byr a phanel a hefyd cyfle i gymdeithasu dros baneidiau lu a phrynhawn o hwyl gyda’n gilydd ar draeth Aberystwyth ar y dydd Mawrth.

Plant ac Ieuenctid
Bydd darpariaeth lawn ar gyfer y plant ar y nos Lun, bore Mawrth a nos Fawrth a darpariaeth i’r Ieuenctid ar y bore Mawrth. Mae’n ŵyl deuluol ar gyfer holl deulu Crist. Gall unigolyn rhwng 14 a 17 mlwydd oed fynychu’r ŵyl heb eu rhieni os yw Capel neu Warchodwr yn gyfrifol amdano.

Cynhelir prif ddigwyddiadau Llanw eleni yng Nghanolfan Medrus, Aberystwyth ar gampws y Brifysgol. Mae’r neuadd yn gallu eistedd 300 o bobl, ac mae adnoddau ar gyfer darparu te a choffi yn ogystal â maes parcio.

Tocynnau Llanw 2022 (EventBrite) Taflen Groeso Llanw 2022 (PDF)
Amserlen Llanw 2022
Nos Lun – 18 Ebrill
6.30pm : Dathliad gyda neges gan Stuart Bell

Dydd Mawrth – 19 Ebrill
10am: Oedfa Deulu gyda Martyn a Meilir Geraint
11.30am: Cyfres o sgyrsiau byr yn arddull ‘TED talks’ gan Anna Mari, Lydia Power a Cynan Llwyd neu ddarlith hanes gyda Jonathan Thomas
1.30pm: Cyfarfod ar y traeth – Picnic a Gemau
6pm: Cyfarfod Blynyddol Llanw
6.30pm: Dathliad gyda neges gan Jonathan Thomas

Gwaith Plant 4-11 oed: Nos Lun, Bore a Nos Fawrth
Gwaith Ieuenctid 11-15 oed: Bore Mawrth

Cymraeg fydd iaith holl weithgaredd a chyfarfodydd Llanw. Bydd offer cyfieithu ar gael yn y prif oedfaon.

Siaradwyr Llanw 2022

Stuart Bell
Mae Stuart Bell bellach wedi ymddeol yn dilyn cyfnod o weinidogaeth o dan eneiniad yr Ysbryd. Mae yntau wedi annerch yn Llanw o’r blaen, ac y mae’n bregethwr cyson mewn eglwysi a chapeli yn dilyn ei ymddeoliad ar ôl blynyddoedd o weinidogaeth rymus yn Eglwys St Michaels a Santes Fair Aberystwyth.

Anna Mari
Yn wreiddiol o Bontypridd bu’n gweithio am gyfnod yn yr India cyn dychwelyd i Gymru a gweithio yng nghanolfan Fflad y Brenin am gyfnod. Teimlodd alwad i Ogledd Cymru ac mae bellach wedi ymgartrefu yn ardal Y Bala lle y mae hi’n parhau gyda’i gweinidogaeth weddi.

Jonathan Thomas
Yn wreiddiol o Frynaman, wedi treulio cyfnod yn arwain eglwys yn Rhydaman, ef bellach yw gweinidog Eglwys Cornerstone, Y Fenni. Roedd yn un o brif siaradwyr cyntaf Llanw, ac yn awdur toreithiog gan gynnwys llyfr diweddar ar Thomas Charles.

Lydia Power
Ar ôl cyfnod yn byw yng Nghaerdydd mae hi bellach wedi dychwelyd at ei gwreiddiau yn ardal Cydweli, Sir Gâr. Gweithiodd i’r Eglwys leol ac yna astudiodd mewn coleg Beiblaidd cyn ymgymhwyso fel Cyfrifydd Siartredig.

Cynan Llwyd
Yn wreiddiol o Aberystwyth ond bellach wedi ymgartrefu yng Nghaerdydd lle mae’n un o arweinwyr Angor Granetown. Ef yw Cyfarwyddwr Tearfund yng Nghymru a cyn hynny gweithiodd i Cymorth Cristnogol.

Martyn a Meilyr Geraint
Tad a mab a phrofiad helaeth o wasanaethu eglwysi a gweinidogaethu yn arbennig ymhlith plant a theuluoedd. Meilyr hefyd yw un o sylfaenwyr Adlais, y gymuned o gerddorion sydd a’u calon ar gyflwyno emynau cyfoes gwreiddiol Cymraeg i eglwysi Cymru.

Archebu a Tocynnau
Eleni rydym yn defnyddio gwasanaeth EventBrite i werthu a rheoli tocynnau. Rydym wedi ceisio cadw tocynnau mor rhesymol ag sy’n bosib ond mae costau sylweddol ynghlwm a chynnal cynhadledd mewn canolfan addas.

Os ydych dim ond yn dod i’r oedfa nos Lun yna mae dal yn rhaid i chi archebu tocyn ymlaen llaw (gan wneud cyfraniad os dymunwch) trwy EventBrite oherwydd yr angen i reoli niferoedd ac ati.

Tocynnau Gŵyl Gyfan (18-19 Ebrill)
Oedolyn (gŵyl gyfan) £25
Myfyrwyr / Pensiynwyr / Plant (gŵyl gyfan) £10
Teulu (2 oedolyn a 2 blentyn – (gŵyl gyfan) £60

Tocyn Diwrnod ar y dydd mawrth (19 Ebrill)

Oedolyn £20
Myfyrwyr / Pensiynwyr / Plant £8

Tocyn oedfa nos (18 Ebrill)

Oedolion, plant, myfyrwyr a phensiynwyr – Cyfranniad yn unig
Ond mae dal angen archebu tocyn trwy EventBrite

Tocynnau Llanw 2022 (EventBrite)
Llety?
Oherwydd amgylchiadau’r pandemig penderfynodd swyddogion Llanw i beidio cynnal gŵyl breswyl eleni felly nid ydym yn trefnu llety i bawb. Mae croeso i bobl ddod am y diwrnod neu drefnu llety eu hunain yn yr ardal.
Ymholiadau
Ar gyfer ymholiadau cyffredinol ebostiwch Angharad Clwyd ar ymholiadau@llanw.org

Ar gyfer ymholiadau ynglŷn ag archebu tocynnau trwy EventBrite ebostiwch Menna Machreth ar tocynnau@llanw.org