Llanw 23

Mae y Llanw yn dod i fewn …
10-13 Ebrill 2023 yn Llangrannog.

Rhaglen Lawn a Llyfryn Croeso Llanw 2023 (PDF)
Beth sy’n digwydd yn Llanw?
Cynhelir yr ŵyl eleni yng Ngwersyll yr Urdd, Llangrannog. Bydd yna raglen lawn i’r ŵyl, bwyd da yn y gwersyll ac hefyd holl weithgareddau y gwersyll ar gael i’r sawl sy’n mynnychu.

Bydd yr ŵyl yn cychwyn gyda chinio dydd Llun 10 Ebrill ac yn gorffen gyda chinio dydd Iau 13 Ebrill 2023.

Plant ac Ieuenctid
Bydd darpariaeth lawn gan Llanw ar gyfer y plant a’r ieuenctid a bydd gweithgareddau anturus Gwersyll yr Urdd hefyd ar gael. Mae’n ŵyl deuluol ar gyfer holl deulu Crist. Gall unigolyn rhwng 14 a 17 mlwydd oed fynychu’r ŵyl heb eu rhieni os yw Capel neu Warchodwr yn gyfrifol amdano.

Archebu a Tocynnau
Rydym yn defnyddio gwasanaeth EventBrite eto i werthu a rheoli tocynnau. Rydym wedi ceisio cadw tocynnau mor rhesymol ag sy’n bosib ond mae costau sylweddol ynghlwm a chynnal cynhadledd mewn canolfan addas. Bydd EventBrite hefyd yn ychwanegu ffi archebu, dyma yw’r ffi weinyddol sy’n mynd i EventBrite, nid Llanw sy’n casglu’r ffi yma.

Mae yna amrywiaeth o docynnau ar gael, a penderfyniad y trefnwyr yw sicrhau fod yr Ŵyl mor fforddiadwy â phosibl, yn arbennig i deuluoedd a myfyrwyr. Nid oes cost i blant o dan 3 oed.

Mae tocyn i’r Ŵyl gyfan yn cynnwys (oni nodir yn wahanol wrth archebu):
• Prydau bwyd, paneidiau ayyb o ginio ddydd Llun i ginio ddydd Iau
• Holl weithgareddau’r Ŵyl
• Defnydd o weithgareddau’r Ganolfan
• Ystafelloedd gwely sy’n amrywio o ystafelloedd gyda dau wely sengl, i ystafelloedd gyda i fyny at 8 gwely.

Oherwydd yr angen i hysbysu’r Ganolfan mewn pryd am ein trefniadau, gofynnwn ichwi archebu tocynnau i’r Ŵyl gyfan a tocynnau dyddiol yn brydlon.

Nid oes angen archebu tocyn os y byddwch ond yn mynychu oedfaon yr Ŵyl a heb angen lluniaeth/llety. Gwahoddwn y rhai sydd ond yn mynychu oedfaon yr Ŵyl i gyfrannu rhodd yn ystod yr oedfa.

Oni nodir yn wahanol mae pris y tocynau ar EventBrite yn cynnwys:
✝️ Holl weithgareddau Llanw
🛏️ Llety, gwely a brecwast
🍲 Prydau bwyd
🏞️ Mynediad i weithgareddau Gwersyll Llangrannog

Tocynnau Llanw 2023 (EventBrite)

Noder:
Mae gan Llanw gefnogwyr sydd yn golygu y byddem yn barod i estyn cymorth ariannol i unigolion/teuluoedd lle bo angen. Cysylltwch â Meirion yn gwbl gyfrinachol (meirion@llechwedd.cymru) os ydych am gael eich ystyried ar gyfer y cymorth hwn.

Ymholiadau
Ar gyfer ymholiadau cyffredinol ebostiwch Angharad Clwyd ar ymholiadau@llanw.org

Ar gyfer ymholiadau ynglŷn ag archebu tocynnau trwy EventBrite ebostiwch Menna Machreth ar tocynnau@llanw.org