Llanw 24

1-5 Ebrill 2024
Llangrannog

Prif Siaradwr: Arfon Jones

Cyhoeddir mwy o wybodaeth yn fuan iawn.

Mae tocynnau Llanw 2024 bellach ar werth er mwyn i chi archebu eich lle. Eleni rydym yn defnyddio gwasanaeth SumUp sy’n wasanaeth diogel i ni dderbyn taliadau. Ar ôl i chi archebu eich tocynnau a thalu byddwn yn cysylltu gyda chi i gasglu mwy o fanylion fel enwau pawb sy’n rhan o’ch archeb, oedran y plant ayyb…

Prisiau am yr ŵyl gyfan
Yn cynnwys llety, pob pryd bwyd, gweithgareddau Llangrannog a mynediad i holl gyfarfodydd, seminarau a gwaith plant a ieuenctid Llanw:

Oedolyn £200
Myfyriwr £160
Plentyn £50
Dan 3 oed Am Ddim
Teulu: 1 oedolyn + 1 plentyn £250
Teulu: 1 oedolyn + 2 plentyn £300
Teulu: 2 oedolyn + 1 plentyn £450
Teulu: 2 oedolyn + 2 plentyn £500
Teulu: 2 oedolyn + 3 plentyn £550

Os oes gennych fwy na 3 plentyn yn eich teulu/parti, prynwch docyn teulu ac yna ychwanegu tocyn plentyn ychwanegol i’r fasged hefyd. Rhaid i docynau plant fod yn gysylltiedig ag archeb sy’n cynnwys oedolion a fydd yn gyfrifol amdanynt.

Ystyriwn fod person 3 i 17 oed yn blentyn. Caiff babanod dan dair oed ddod am ddim (ond cofiwch adael i ni wybod ymlaen llaw eu bod yn dod gyda chi) a rhaid i’r sawl sy’n 18 a hŷn gofrestru fel oedolyn oni bai eu bod yn parhau mewn addysg yna cânt gofrestru fel myfyriwr.

Archebu Tocynnau Llanw
Tocynau diwrnod
Cofiwch fod ymwelwyr dyddiol angen prynnu tocynau ymlaen llaw er mwyn i’r staff arlwyo wybod faint o fwyd sydd angen i baratoi ar gyfer pob pryd.
Oedolyn 1 pryd £34
Oedolyn 2 pryd £42
Plentyn 1 pryd £28
Plentyn 2 pryd £34
Archebu Tocynnau Dydd Llanw
Gostyngiadau
Os yw’r pris yn rwystyr i chi ystyried dod i Llanw yna mae gennym gronfa arbennig i gynnig gostyngiad i rai.

Cysylltwch yn gyfrinachol gyda Meirion Morris i ymholi am hyn: meirion@llechwedd.cymru