Llety ac archebu
Carmarthen Bay Holiday Park
Mae llety eleni wedi ei drefnu yn y Carmarthen Bay Holiday Park, parc gwyliau glan-y-môr sy’n llawn gweithgareddau gwych gyda rhywbeth i bob aelod o’r teulu. Mae yna bwll nofio dan do wedi’i wresogi, ardal chwarae meddal a maes chwarae antur. Am wledd flasus gallwch fynd i’r Boathouse sef Bar a Bwyty’r safle. Mae yna siop hefyd ar gael sy’n darparu’r hanfodion ac mae WiFi ar gael ym mhrif adeiladau’r safle.
MAE POB CARAFAN WEDI GWERTHU ALLAN ERBYN HYN. OND MAE AMBELL LE AR OL I BOBL SY’N DOD FEL UNIGOLION I RANNU CARAFAN. FFONIWCH LOWRI AC ARWEL JONES AM FWY O WYBODAETH 01286 880865
OS YDYCH CHI’N TREFNU LLETY EICH HUN COFIWCH FOD DAL ANGEN I CHI ARCHEBU TOCYNNAU DYDDIOL. MAE PRIS MYNEDIAD I’R WYL WEDI EI GYNNWYS YM MHRIS POBL SYDD WEDI ARCHEBU LLETY TRWYDDOM NI.
Rhaid archebu eich lle erbyn Chwefror 28ain 2018
- Llety A 3 llofft yn cysgu hyd at 8 (£480) WEDI GWERTHU ALLAN
- Llety B 3 llofft y cysgu hyd at 8 (£400) WEDI GWERTHU ALLAN
- Llety C 2 lofft yn cysgu hyd at 6 (£390) WEDI GWERTHU ALLAN
- Llety Ch 2 lofft yn cysgu hyd at 6 (£330) WEDI GWERTHU ALLAN
Mae prisiau’r carafannau statig yn cynnwys tocynnau mynediad i’r ŵyl.
Unigolion
Gofynnir i chi, lle bo modd, archebu carafan gyfan fel grŵp o ffrindiau neu deulu ond lle nad ydy hynny’n bosib mae croeso i unigolion gysylltu â ni i archebu lle am oddeutu £90 ac fe’ch rhennir i mewn i garafannau wrth gyrraedd.
Ffurflen Archebu Carafan <<< Cliciwch YMA
Talu
Gofynwn i chi lenwi’r ffurflen gofrestru ar ein gwefan
www.llanw.org ac anfon y taliad trwy ddefnyddio bancio ar-lein. Am fwy o wybodaeth neu i drefnu taliad gyda siec cysylltwch â Lowri Jones ar llety@llanw.org neu 07747 143371.
Os yn trefnu llety eich hunain gofynnwn i chi hefyd lenwi’r ffurflen gofrestru.
Ffurflen Archebu Tocynnau Dyddiol <<< Cliciwch YMA
Trefnu llety eich hun?
Croeso i rai sy’n dymuno trefnu llety eich hun ymuno â ni ar gyfer yr oedfaon a’r seminarau a thalu am docyn diwrnod.
Teulu : £30 ( 2 oedolyn a 2 blentyn)
Pensiynwyr a Myfyrwyr £8
Plant £5
Oedolyn £12
Ffurflen Archebu Carafan <<< Cliciwch YMA
Ffurflen Archebu Tocynnau Dyddiol <<< Cliciwch YMA
ARCHEBU HWDIS 2018