Llanw '26

Am fwy o fanylion am Llanw ’26 gan gynnwys siaradwr, darpariaeth plant a llety, cliciwch yma.

Beth yw Llanw?

Mae Llanw yn ŵyl Gristnogol i bob oed gafodd ei sefydlu yn 2008. Roedd oddeutu 60 o bobl yn yr ŵyl gyntaf ac mae wedi tyfu bellach i fod yn ŵyl mae oddeutu 300 yn ei fwynhau’n flynyddol. Mae’n ŵyl symudol ac wedi ei gynnal yn Llangrannog, Cei Newydd, Dinbych y Pysgod, Cricieth a Chydweli. Bydd Llanw ’26 yn digwydd rhwng y 6ed a’r 10fed o Ebrill yng Ngwersyll yr Urdd, Llangrannog.

Ffocws yr ŵyl yw dathlu’r atgyfodiad wrth i Gristnogion ddod at ei gilydd i glywed pregethau, anerchiadau a seminarau Beiblaidd a mwynhau addoliad egnïol a chyfoes.

Ymunwch â ni mewn...

Day(s)

:

Hour(s)

:

Minute(s)

:

Second(s)